Adroddiad Drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol
CA593
Teitl: Rheoliadau Adrodd ar Brisiau Cynhyrchion Llaeth (Cymru) 2011
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Adrodd ar Brisiau Cynhyrchion Llaeth (Cymru) 2005. Maent yn ei gwneud yn ofynnol i sampl o broseswyr llaeth ddarparu gwybodaeth i Lywodraeth Cynulliad Cymru ynglŷn â phrisiau a osodir ar gyfer gwerthu cynhyrchion llaeth ar ôl iddynt gael eu prosesu. Bydd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn cyfleu’r wybodaeth i’r Comisiwn Ewropeaidd.
Materion Technegol: Craffu
O dan Reol Sefydlog Rhif 21.2 gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn:-
Mae rheoliad 4 (2) yn datgan bod unrhyw berson nad yw’n cydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 2 (1) yn euog o dramgwydd. Rheoliad 3 (1) yn hytrach na rheoliad 2 (1) sydd yn darparu i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad o’r fath. Nid yw rheoliad 2 (1) yn bodoli.
(Rheol Sefydlog 21.2 (vi), ei bod yn ymddangos bod y gwaith drafftio yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol).
Rhinweddau: Craffu
Gweler CLA(4)-01-11 (p1) ar gyfer y pwyntiau a nodwyd i fod yn destun adroddiad i dan Reol Sefydlog 21.3.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol
Ebrill 2011
Mae’r Llywodraeth wedi ymateb fel a ganlyn:
Rheoliadau Adrodd ar Brisiau Cynhyrchion Llaeth (Cymru) 2011
Mae'r Llywodraeth yn ystyried bod pwynt craffu technegol y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol yn wall teipograffyddol. Gellir gwneud y gwiriad priodol i'r gwall hwn wrth i’r Rheoliadau gael eu cyhoeddi ddiwedd mis Mai 2011. Cefnogir ymateb y Llywodraeth fel a ganlyn:
1. Mae'r nodyn esboniadol i'r Rheoliadau yn nodi fod methu â chydymffurfio â'r gofynion hysbysu a geir yn y Rheoliadau yn dramgwydd ac y dylai'r cyfryw hysbysiadau gael eu cyflwyno o dan reoliad 3. Pan fo amwysedd yng nghorff y Rheoliadau, bydd y nodiadau esboniadol, er nad ydynt yn gyfreithiol rwymol, yn cael eu defnyddio i gynorthwyo'r darllenydd i gyrraedd dehongliad.
2. Nid oes rheoliad 2(1) yn y Rheoliadau. O gofio, yn y cyd-destun fod hysbysiadau'n cael eu cyflwyno o dan reoliad 3 a'i bod yn dramgwydd o dan reoliad 4 i fethu â chydymffurfio â'r cyfryw hysbysiad, y mae'n annhebygol y gall dyfynnu rheoliad 2(1) anghywir olygu unrhyw beth arall ond mai gwall teipograffyddol ydyw y dylai fod wedi ei ddyfynnu yn rheoliad 3(1).
3. Cyhoeddiad Bennion yw'r awdurdod cyfreithiol cydnabyddedig ar ddehongli statudol. Rhoddir enghraifft yn Bennion o arfer dderbyniol y llysoedd i ddehongli i offerynnau statudol er mwyn gwirio gwall gan roi effaith ymarferol i fwriad y deddfwr pan fo gwall teipograffyddol yno.
Crynodeb o Ymateb y Llywodraeth
Mae’n amlwg bod rhoi rheoliad 2(1) yn lle'r hyn a ddylai gael ei ddarllen fel
rheoliad 3(1) yn wall teipograffyddol amlwg. Gellir gwneud y gwiriad priodol
i'r gwall hwn wrth i’r Rheoliadau gael eu cyhoeddi. Cefnogir hyn gan y
rhesymau a nodwyd yn 1 – 3 uchod.